Diwedd yr Arholiadau, wehei!
Wel diolch i Dduw ma'r blydi arholiadau wedi gorffen. Typical y fi oedd yr olaf o bawb i orffen! Ond na phoener mi wnaeth Iwan yn siwr na wnaeth o golli allan yn yr hwyl a'r miri wedi'r arholiadau. Fe orffennodd Rhys Wheldon a Huw Pritchard ei arholiadau ar y 31 o Fai (part timars uffar!) felly fe deimlais nad oeddwn yn gallu peidio a helpu iddyn nhw ddathlu! Am rhyw reswm fe benderfynodd rhywun gael water fight o amgylch Senghennydd felly dyna a fu, typical fi oedd yr un oedd yn socian ond dyna fo de! Wedi hynny dyma benderfynnu fynd i Risa, Ifan, Mogs, Pritch Rhys a minnau, roedd hi'n braf cael meddwl fod yr hen ddyddiau ar ei ffordd yn ol! Dydd Iau y 1af o Fehefin roeddwn am fynd yn ol adref i gael adolygu ar gyfer fy ddau arholiad a oedd ar ol ond cyn bwrw ati at waith dyma gael cynnig i fynd allan i gymharu bywyd JMJ gyda bywyd yn y ddinas fawr ddrwg! A dweud y gwir roedd noson allan yn Fangor yn dda iawn ac fe oedd Huw Ffowcs, Huw Pritchard, Rhys Wheldon a fi wedi cael amser da. Wel am ddiodda' Dydd Gwener, hangover gwaethaf erioed i fi gael dwi'n siwr a mae hynny yn ddweud mawr! Wedi survivio Dydd Gwener dyma fynd i dy Carwyn i Rhuthin Dydd Sadwrn. Wel dyma i chi stori! Roedd Rhys wedi son yn ei ddiod tra yn Fangor y buasai yn dod i Fontnewydd i nol fi i fynd i Rhuthin ond gan fy mod heb wedi clywed dim ganddo dyma benderfynnu mynd efo Pritch i 'sdeddfod. Tra roedd Pritch wrth y llyw (yn gyrru yn hynnod ofalus!) dyma fi yn ffonio Carwyn yn dweud ein bod ar ein fforddond dyma yntau yn dweud fod Rhys ar y ffordd draw i Fontnewydd i nol ni, ta waeth nad oedd o wedi ffonio na dim! Dyma yrru i fyny ac i lawr yr A55 methu gwybod beth i wneud! Yn y diwedd dyma benderfynnu mynd yn ol i Fontnewydd i ddisgwyl amdano. Wedi y ffiasco yna a cyrraedd yr Eisteddfod am 2.30pm gan fod Rhys gyda phobia yn erbyn yr A55! Roedd noson yn Rhuthun yn wych, diolch yn fawr Carwyn am gael aros!
Dyma ddod nol lawr i Gaerdydd Dydd Llun heb wedi adolygu dim tra adref ar gyfer yr ddau arholiad, o wel! Dyma fynd lawr y ffordd hir i bigo Ifan i fyny o Llanbed, profiad newydd eto o gael gweld y rhan yna o Gymru. Wedi cyrraedd yn ol dyma roi pen i lawr i adolygu, mi oedd hynny yn anodd gan fod pawb arall wedi gorffen ac roedd parti yn mynd 'mlaen yn C3 nos Fercher ond dwi yn falch o fi fy hun bo v wedi cael cryfder i aros mewn!
Dydd Mercher am 11.30 (hanner awr cyn i'r arholiad orffen), ro'n i yn nhafarn y Blackweir wrth ymyl Talybronx. Yna, ymlaen i'r Woodville cyn gorffen sesiwn y dydd yn y Taf (y pub ddim yr afon)! Wedi ca'l digon o fynd o amgylch tafarndai, dyma fynd draw i'r parc a chynnal barbeciw, chwara' frisbi, pel-droed ac yfad amball i ddiod! Wrth i Branwen goginio'r byrgers, dyma warden y parc yn dod atom a deud fod cynnal barbeciws ar dir y parc yn anghyfreithlon! Beth bynnag, wedi iddo ddeall ein bod braidd yn feddw, penderfynodd adael inni gynnal barbeciw y tro hwn! Gyda'r nos, cafwyd parti yn fy fflat (G4) cyn mynd ymlaen i glwb nos Risa! Bu bownsio gwyllt ar y castell bownsio a dawnsio'n wirion drwy gydol y noson (yn enwedig Gareth, oedd yn ddawnsiwr clocsen un funud ac yn riverdancer munud wedyn!!!!) Roedd hon i fod yn sesh 48 awr ond i'w gwlau aeth pawb!
'Day of rest' oedd dydd Iau cyn mentro i'r sinema i weld 'The Omen' ac allan i Walkabout gyda'r nos! Roedd pawb yn flinedig iawn ond braidd yn wirion ac ar ol mwynhau yn y clwb, daeth pawb yn ol i G4 unwaith eto cyn i'r 'security' ddod i roi'r drefn inni am gadw swn a deud wrth bawb am fynd adref gan fod rhai o fyfyrwyr Senghennydd yn sefyll arholiad y diwrnod canlynol! Ha ha!!!
A dyma ni am 9.15 nos Wener ma Big Brother ar y teledu a rhyw raglen random am bobol TEW o Gymru! Ma Cwpan y Byd wedi dechra' heddiw a sgin i ddim rhithyn o ddiddordeb felly eshi, Rhys a Pritch i Sain Ffagan i osgoi'r 'build-up'! Ma fory am fod yn wych (gobeithio) - parti pen-blwydd hwyr i Aled a'r thema ydi 'Cuba' gan ein bod yn mynd ar wylia' yno ddechra mis Medi! Ma rhaid mynd i siopio am ddillad bora fory cyn dechra' diota unwaith eto!
Wotch ddus sbes...

0 Comments:
Post a Comment
<< Home